24 ‘O Feistr, ARGLWYDD, dw i'n dechrau gweld mor fawr ac mor gryf wyt ti! Oes yna dduw arall yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n gallu gwneud pethau mor anhygoel?
25 Plîs, wnei di adael i mi groesi dros yr Afon Iorddonen i weld y tir da sydd yr ochr arall? – y bryniau hyfryd a mynyddoedd Libanus.’
26 “Ond roedd yr ARGLWYDD yn wyllt hefo fi o'ch achos chi. Doedd e ddim yn fodlon gwrando. Dyma fe'n dweud, ‘Dyna ddigon! Dw i eisiau clywed dim mwy am y peth.
27 Cei ddringo i ben Mynydd Pisga, ac edrych ar y wlad i bob cyfeiriad, ond dwyt ti ddim yn mynd i gael croesi dros yr Iorddonen.
28 Dw i eisiau i ti gomisiynu Josua, a'i annog a rhoi hyder iddo. Fe ydy'r un sy'n mynd i arwain y bobl yma drosodd i gymryd y wlad fyddi di'n ei gweld o dy flaen di.’
29 “Felly dyma ni'n aros yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor.