6 Dyma ni'n gwneud yn union yr un fath ag a wnaethon ni i drefi Sihon, brenin Cheshbon – eu dinistrio nhw i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, hyd yn oed gwragedd a phlant.
7 Ond dyma ni'n cadw'r anifeiliaid ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr.
8 “Dyna pryd gwnaethon ni gymryd tir dau frenin yr Amoriaid, yr ochr draw i'r Iorddonen – o Geunant Arnon yn y de yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd.
9 (Sirion ydy enw pobl Sidon ar Hermon, ac mae'r Amoriaid yn ei alw yn Senir.)
10 Roedden ni wedi concro trefi'r byrdd-dir, Gilead i gyd a Bashan yr holl ffordd i drefi Salca ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og.
11 (Og, brenin Bashan, oedd yr unig un o'r Reffaiaid oedd yn dal ar ôl. Roedd ei arch yn bedwar metr o hyd, a bron dau fetr o led, ac wedi ei gwneud o garreg basalt du. Gellir ei gweld yn Rabba, prif dref yr Ammoniaid.)
12 “Felly dyma'r tir wnaethon ni ei gymryd i'r dwyrain o Afon Iorddonen. Dyma fi'n rhoi'r tir sydd i'r gogledd o Aroer, ar ymyl Ceunant Arnon, a hanner bryniau Gilead i lwythau Reuben a Gad.