14 Mae'r gorchmynion gen ti wrth law; ti'n eu deall ac yn gallu eu dyfynnu ar y cof. Felly gwna beth maen nhw'n ddweud.
15 “Edrychwch! Dw i wedi rhoi dewis i chi heddiw – bywyd a llwyddiant, neu farwolaeth a dinistr.
16 Beth dw i'n ei orchymyn i chi ydy i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a chadw ei orchmynion, ei reolau, a'i ganllawiau. Wedyn byddwch chi'n byw ac yn llwyddo, a bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd.
17 “Ond os byddwch chi'n troi oddi wrtho a gwrthod gwrando arno, ac yn cael eich denu i'w haddoli nhw,
18 dw i'n eich rhybuddio chi, byddwch chi'n cael eich dinistrio! Gewch chi ddim aros yn hir iawn yn y wlad dych chi'n croesi'r afon Iorddonen i'w chymryd.
19 “Dw i'n galw'r nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eich erbyn chi. Dw i'n gosod dewis o'ch blaen chi – bywyd neu farwolaeth, bendith neu felltith. Felly dewiswch fywyd, a cewch chi a'ch disgynyddion fyw!
20 Rhaid i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, gwrando ar beth mae e'n ddweud ac aros yn ffyddlon iddo. Fe ydy'r un sy'n rhoi bywyd, a fe fydd yn eich galluogi chi i fyw yn y wlad wnaeth e addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi, Abraham, Isaac a Jacob.”