9 Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i bopeth wnewch chi lwyddo. Byddwch chi'n cael lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael rhai bach, a bydd cynnyrch y tir yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw wrth ei fodd gyda chi, ac yn gwneud i chi lwyddo, fel roedd e wrth ei fodd gyda'ch hynafiaid chi,
10 dim ond i chi fod yn ufudd iddo, a chadw'r gorchmynion a'r rheolau sydd wedi eu hysgrifennu yn sgrôl y Gyfraith yma. Ond rhaid i chi droi ato â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.
11 “Dydy beth dw i'n ei orchymyn i chi heddiw ddim yn anodd i'w ddeall, nag yn amhosib i'w gyrraedd.
12 Dydy e ddim yn y nefoedd, fel bod rhaid i rywun ofyn, ‘Pwy wnaiff fynd i fyny i'r nefoedd i'w gael i ni, a'i gyhoeddi er mwyn i ni wneud beth mae'n ddweud?’
13 A dydy e ddim ym mhen draw'r byd, fel bod rhaid gofyn, ‘Pwy wnaiff fynd dros y môr i'w gael i ni, a'i gyhoeddi i ni er mwyn i ni wneud beth mae'n ddweud?’
14 Mae'r gorchmynion gen ti wrth law; ti'n eu deall ac yn gallu eu dyfynnu ar y cof. Felly gwna beth maen nhw'n ddweud.
15 “Edrychwch! Dw i wedi rhoi dewis i chi heddiw – bywyd a llwyddiant, neu farwolaeth a dinistr.