13 Wedyn bydd eu disgynyddion, oedd ddim yn gwybod y gyfraith, yn cael clywed am yr ARGLWYDD eich Duw, a dysgu ei barchu, tra byddwch chi'n byw yn y wlad dych chi'n croesi dros yr afon Iorddonen i'w meddiannu.”
14 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ti'n mynd i farw cyn bo hir. Galw am Josua, a dos gydag e i sefyll ym mhabell presenoldeb Duw, er mwyn i mi ei gomisiynu e.” Felly dyma Moses a Josua yn gwneud hynny.
15 A dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddyn nhw mewn colofn o niwl uwch ben drws y babell.
16 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ti'n mynd i farw cyn bo hir, a bydd y bobl yma'n anffyddlon i mi ac yn addoli duwiau'r wlad maen nhw'n mynd i mewn iddi. Byddan nhw'n troi cefn arna i, ac yn torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda nhw.
17 Bydda i'n digio gyda nhw, ac yn troi cefn arnyn nhw, nes byddan nhw wedi eu dinistrio. Bydd lot o drychinebau ac helyntion yn dod arnyn nhw, a byddan nhw'n dweud, ‘Mae'r pethau ofnadwy yma wedi digwydd i ni am fod ein Duw wedi ein gadael ni.’
18 Ond fydda i'n sicr ddim yn eu helpu nhw, am eu bod nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg drwy droi i addoli duwiau eraill.
19 Felly ysgrifenna eiriau'r gân yma i lawr, a dysga hi i bobl Israel ar y cof. Bydd y gân yma'n dystiolaeth gen i yn erbyn pobl Israel.