15 A dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddyn nhw mewn colofn o niwl uwch ben drws y babell.
16 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ti'n mynd i farw cyn bo hir, a bydd y bobl yma'n anffyddlon i mi ac yn addoli duwiau'r wlad maen nhw'n mynd i mewn iddi. Byddan nhw'n troi cefn arna i, ac yn torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda nhw.
17 Bydda i'n digio gyda nhw, ac yn troi cefn arnyn nhw, nes byddan nhw wedi eu dinistrio. Bydd lot o drychinebau ac helyntion yn dod arnyn nhw, a byddan nhw'n dweud, ‘Mae'r pethau ofnadwy yma wedi digwydd i ni am fod ein Duw wedi ein gadael ni.’
18 Ond fydda i'n sicr ddim yn eu helpu nhw, am eu bod nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg drwy droi i addoli duwiau eraill.
19 Felly ysgrifenna eiriau'r gân yma i lawr, a dysga hi i bobl Israel ar y cof. Bydd y gân yma'n dystiolaeth gen i yn erbyn pobl Israel.
20 “Ar ôl i mi fynd â nhw i'r wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo – byddan nhw ar ben eu digon. Ond yna byddan nhw'n troi i addoli duwiau eraill, yn dangos dirmyg ata i ac yn torri amodau'r ymrwymiad wnes i.
21 Wedyn pan fydd y trychinebau a'r helyntion yn dod arnyn nhw bydd y gân yma yn dystiolaeth yn eu herbyn nhw (Bydd eu disgynyddion yn dal i gofio'r gân.) Dw i'n gwybod yn iawn beth sydd ar eu meddyliau nhw, hyd yn oed cyn i mi fynd â nhw i mewn i'r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw.”