2 a dweud wrthyn nhw, “Dw i'n gant dau ddeg, a ddim yn gallu mynd a dod fel roeddwn i. Ac mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrtho i na fydda i'n croesi'r afon Iorddonen.
3 Ond bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd drosodd o'ch blaen chi. Bydd e'n dinistrio'r cenhedloedd ac yn cymryd eu tir oddi arnyn nhw. Mae e wedi dweud mai Josua fydd yn eich arwain chi.
4 Bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio nhw a'u gwlad, fel y gwnaeth e i Sihon ac Og, brenhinoedd yr Amoriaid.
5 Bydd e'n rhoi'r gallu i chi eu concro nhw, ond rhaid i chi wedyn wneud yn union fel dw i wedi gorchymyn i chi.
6 Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn, a peidiwch panicio. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chi. Fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi ei gefn arnoch chi.”
7 Yna dyma Moses yn galw Josua ato o flaen pobl Israel, a dweud wrtho, “Bydd yn gryf a dewr! Ti'n mynd gyda'r bobl yma i'r wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei addo i'w hynafiaid nhw. Ti fydd yn eu galluogi nhw i gymryd y tir.
8 Ond mae'r ARGLWYDD ei hun yn mynd o'ch blaen chi. Bydd e gyda chi; fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi ei gefn arnoch chi. Peidiwch bod ag ofn na panicio.”