22 Felly dyma Moses yn ysgrifennu'r gân i lawr, ac yn ei dysgu hi i bobl Israel.
23 A dyma'r ARGLWYDD yn comisiynu Josua fab Nwn, “Bydd yn gryf a dewr. Ti sy'n mynd i arwain pobl Israel i'r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw. Ond bydda i gyda ti.”
24 Pan oedd Moses wedi gorffen ysgrifennu'r cyfarwyddiadau yma i gyd mewn sgrôl,
25 dyma fe'n rhoi'r gorchymyn yma i'r dynion o lwyth Lefi oedd yn cario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD:
26 “Cymerwch sgrôl y Gyfraith, a'i gosod hi wrth ymyl arch ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw. Bydd yna yn dystiolaeth yn eich erbyn chi.
27 Dych chi'n bobl benstiff. Dych chi wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD yr holl amser dw i wedi bod gyda chi, felly sut fyddwch chi ar ôl i mi farw?
28 Casglwch arweinwyr y llwythau, a'r swyddogion at ei gilydd, i mi ddarllen y cwbl iddyn nhw, a bydda i'n galw y nefoedd a'r ddaear i dystio eu bod nhw'n gwybod beth maen nhw i fod i'w wneud.