4 Bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio nhw a'u gwlad, fel y gwnaeth e i Sihon ac Og, brenhinoedd yr Amoriaid.
5 Bydd e'n rhoi'r gallu i chi eu concro nhw, ond rhaid i chi wedyn wneud yn union fel dw i wedi gorchymyn i chi.
6 Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn, a peidiwch panicio. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chi. Fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi ei gefn arnoch chi.”
7 Yna dyma Moses yn galw Josua ato o flaen pobl Israel, a dweud wrtho, “Bydd yn gryf a dewr! Ti'n mynd gyda'r bobl yma i'r wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei addo i'w hynafiaid nhw. Ti fydd yn eu galluogi nhw i gymryd y tir.
8 Ond mae'r ARGLWYDD ei hun yn mynd o'ch blaen chi. Bydd e gyda chi; fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi ei gefn arnoch chi. Peidiwch bod ag ofn na panicio.”
9 Yna dyma Moses yn ysgrifennu'r cyfarwyddiadau yma, a'u rhoi nhw i'r offeiriaid o lwyth Lefi, sy'n cario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i arweinwyr Israel i gyd.
10 A dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw, “Pob saith mlynedd, ar Ŵyl y Pebyll, pan mae dyledion yn cael eu canslo,