9 Yna dyma Moses yn ysgrifennu'r cyfarwyddiadau yma, a'u rhoi nhw i'r offeiriaid o lwyth Lefi, sy'n cario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i arweinwyr Israel i gyd.
10 A dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw, “Pob saith mlynedd, ar Ŵyl y Pebyll, pan mae dyledion yn cael eu canslo,
11 a pobl Israel i gyd yn dod o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis, rhaid i chi ddarllen y cyfarwyddiadau yma iddyn nhw.
12 Galwch y bobl at ei gilydd – dynion, merched a phlant, a'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich pentrefi chi – iddyn nhw eu clywed, dysgu dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw, a gwneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud.
13 Wedyn bydd eu disgynyddion, oedd ddim yn gwybod y gyfraith, yn cael clywed am yr ARGLWYDD eich Duw, a dysgu ei barchu, tra byddwch chi'n byw yn y wlad dych chi'n croesi dros yr afon Iorddonen i'w meddiannu.”
14 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ti'n mynd i farw cyn bo hir. Galw am Josua, a dos gydag e i sefyll ym mhabell presenoldeb Duw, er mwyn i mi ei gomisiynu e.” Felly dyma Moses a Josua yn gwneud hynny.
15 A dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddyn nhw mewn colofn o niwl uwch ben drws y babell.