22 Mae tân wedi ei gynnau – dw i mor ddig!Bydd yn llosgi i ddyfnder y ddaear.Bydd yn difa'r tir a'i gynnyrch,ac yn llosgi hyd sylfaeni'r mynyddoedd.
23 Bydd trychinebau di-baid yn eu taro;bydda i'n defnyddio fy saethau i gyd.
24 Byddan nhw'n marw o newyn,yn cael eu dinistrio gan haint,a brathiadau chwerw anifeiliaid gwylltiona nadroedd gwenwynig.
25 Bydd cleddyf yn lladd pobl y tu allan,a phawb yn cuddio yn eu dychryn y tu mewn –dynion a merched ifanc,plant bach a henoed.
26 Gallwn fod wedi dweud, ‘Dw i am eu torri nhw'n ddarnau,a gwneud i bobl anghofio eu bod nhw wedi bodoli.
27 Ond roedd gen i ofn ymateb y gelynion;y bydden nhw'n camddeall ac yn dweud,“Ni sydd wedi ennill! Ni sydd wedi gwneud hyn!Dydy'r ARGLWYDD wedi gwneud dim!”’
28 Does gan bobl Israel ddim sens!Dŷn nhw'n deall dim!