29 Petaen nhw'n ddoeth bydden nhw'n deall,ac yn sylweddoli beth fydd yn digwydd yn y diwedd.”
30 Sut mae un gelyn yn gallu gwneud i fil o Israel ffoi,a dau yn gyrru deg mil ar ffo,oni bai fod eu Craig wedi eu gwerthu nhw,a'r ARGLWYDD wedi gadael iddyn nhw fynd?
31 Dydy ‛craig‛ ein gelynion ddim fel ein Craig ni –mae'r gelynion eu hunain yn cydnabod hynny!
32 Mae eu gwreiddiau'n mynd yn ôl i Sodom,a'u gwinwydden y tyfu ar gaeau teras Gomorra.Mae eu grawnwin yn llawn gwenwyn,a'u sypiau o ffrwyth yn chwerw.
33 Mae'r gwin fel gwenwyn nadroedd,gwenwyn marwol gwiberod.
34 “Onid ydw i'n cofio'r cwbl?” meddai'r ARGLWYDD,“Onid ydw i wedi ei gadw dan glo yn fy stordai?
35 Fi sy'n dial, ac yn talu nôl.Byddan nhw'n llithro –mae trychineb ar fin digwydd iddyn nhw,a'r farn sydd i ddod yn rhuthro draw!”