3 Wrth i mi gyhoeddi enw'r ARGLWYDD,dwedwch mor fawr yw ein Duw!
4 Mae e fel craig, a'i waith yn berffaith;mae bob amser yn gwneud beth sy'n iawn.Bob amser yn deg ac yn onest –yn Dduw ffyddlon sydd byth yn anghyfiawn.
5 Ond mae ei bobl wedi bod yn anffyddlon,ac heb ymddwyn fel dylai ei blant – a dyna'r drwg.Maen nhw'n genhedlaeth anonest, sy'n twyllo.
6 Ai dyma sut ydych chi'n talu'n ôl i'r ARGLWYDD?– dych chi'n bobl mor ffôl!Onid fe ydy'ch tad chi, wnaeth eich creu chi?Fe sydd wedi'ch llunio chi, a rhoi hunaniaeth i chi!
7 Cofiwch y dyddiau a fu;meddyliwch beth ddigwyddodd yn y gorffennol:Gofynnwch i'ch rhieni a'r genhedlaeth hŷn –byddan nhw'n gallu dweud wrthoch chi.
8 Pan roddodd y Goruchaf dir i'r cenhedloedd,a rhannu'r ddynoliaeth yn grwpiau,gosododd ffiniau i'r gwahanol bobloedda rhoi angel i ofalu am bob un.
9 Ond cyfran yr ARGLWYDD ei hun oedd ei bobl;pobl Jacob oedd ei drysor sbesial.