40 Dw i'n addo ar fy llw,‘Mor sicr a'm bod i yn byw am byth,
41 Dw i'n mynd i hogi fy nghleddyf disglair,a gafael ynddo i gosbi;Dw i'n mynd i ddial ar y gelynion,a talu'n ôl i'r rhai sy'n fy nghasáu!
42 Bydd fy saethau wedi meddwi ar waed,a'm cleddyf yn darnio cnawd –gwaed y rhai wedi eu lladd a'r caethion,prif arweinwyr y gelyn!’”
43 Llawenhewch, genhedloedd, gyda'i bobl;bydd yn dial am ladd ei weision.Mae'n mynd i ddial ar y gelynion,a gwneud iawn am beth a wnaethoni'w dir ac i'w bobl.
44 Yna dyma Moses yn mynd gyda Josua fab Nwn, ac yn adrodd geiriau'r gân i'r bobl i gyd.
45-46 Ar ôl gwneud hynny, dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Cofiwch bopeth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi heddiw. Dysgwch eich plant i wneud popeth mae'r gyfraith yma'n ddweud.
47 Dim geiriau gwag ydyn nhw – dyma'ch bywyd chi! Os cadwch chi nhw, byddwch chi'n byw yn hir yn y tir dych chi ar fin croesi'r Iorddonen i'w gymryd drosodd.”