44 Yna dyma Moses yn mynd gyda Josua fab Nwn, ac yn adrodd geiriau'r gân i'r bobl i gyd.
45-46 Ar ôl gwneud hynny, dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Cofiwch bopeth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi heddiw. Dysgwch eich plant i wneud popeth mae'r gyfraith yma'n ddweud.
47 Dim geiriau gwag ydyn nhw – dyma'ch bywyd chi! Os cadwch chi nhw, byddwch chi'n byw yn hir yn y tir dych chi ar fin croesi'r Iorddonen i'w gymryd drosodd.”
48 Yna, ar yr un diwrnod, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses,
49 “Dos i fyny bryniau Afarîm, a dringo i ben Mynydd Nebo (sydd ar dir Moab, gyferbyn â Jericho), i ti gael gweld Canaan, y wlad dw i'n ei rhoi i bobl Israel.
50 Byddi di'n marw ar ben y mynydd, fel buodd dy frawd Aaron farw ar ben mynydd Hor.
51 Roedd y ddau ohonoch chi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i pan oeddech chi gyda phobl Israel wrth Ffynnon Meriba yn Cadesh yn Anialwch Sin. Wnaethoch chi ddim dangos parch ata i o flaen pobl Israel.