6 Ai dyma sut ydych chi'n talu'n ôl i'r ARGLWYDD?– dych chi'n bobl mor ffôl!Onid fe ydy'ch tad chi, wnaeth eich creu chi?Fe sydd wedi'ch llunio chi, a rhoi hunaniaeth i chi!
7 Cofiwch y dyddiau a fu;meddyliwch beth ddigwyddodd yn y gorffennol:Gofynnwch i'ch rhieni a'r genhedlaeth hŷn –byddan nhw'n gallu dweud wrthoch chi.
8 Pan roddodd y Goruchaf dir i'r cenhedloedd,a rhannu'r ddynoliaeth yn grwpiau,gosododd ffiniau i'r gwahanol bobloedda rhoi angel i ofalu am bob un.
9 Ond cyfran yr ARGLWYDD ei hun oedd ei bobl;pobl Jacob oedd ei drysor sbesial.
10 Daeth o hyd iddyn nhw mewn tir anial;mewn anialwch gwag a gwyntog.Roedd yn eu cofleidio a'u dysgu,a'u hamddiffyn fel cannwyll ei lygad.
11 Fel eryr yn gwthio'i gywion o'r nyth,yna'n hofran a'u dal ar ei adenydd,dyma'r ARGLWYDD yn codi ei boblar ei adenydd e.
12 Yr ARGLWYDD ei hun oedd yn eu harwain,nid rhyw dduw estron oedd gyda nhw.