1 Dyma'r fendith wnaeth Moses, dyn Duw, ei chyhoeddi dros bobl Israel cyn iddo farw:
2 “Daeth yr ARGLWYDD o Fynydd Sinai;roedd fel y wawr yn torri o gyfeiriad Edom.Roedd yn disgleirio o Fynydd Paran,ac yn dod allan gyda deg mil o angylion,a mellt yn saethu o'i law dde.
3 Mae'n amlwg ei fod yn caru'r bobl,ac yn gofalu am y rhai sydd wedi eu cysegru iddo.Maen nhw'n gwrando ar ei eiriau,ac yn addoli wrth ei draed.
4 Rhoddodd Moses gyfraith i ni;rhodd sbesial i bobl Jacob.