11 O ARGLWYDD, bendithia ei eiddo,a chael pleser o'r gwaith mae'n ei wneud.Torra goesau unrhyw un sy'n ymosod arno,a'r rhai sy'n ei gasáu,nes eu bod nhw'n methu sefyll.”
12 Yna meddai am Benjamin:“Bydd yr un sy'n annwyl gan yr ARGLWYDDyn byw yn saff wrth ei ymyl.Bydd Duw yn ei amddiffyn bob amser;bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw'n saff.”
13 Yna meddai am Joseff:“Boed i'r ARGLWYDD fendithio ei dir,a rhoi cnydau da gyda gwlith o'r awyr,a'r dŵr sy'n ddwfn dan y ddaear;
14 cnydau wedi tyfu dan wenau'r haulac yn aeddfedu o fis i fis;
15 cnydau'n tyfu ar ben y mynyddoedd hynafol,a'r cynhaeaf sy'n aeddfedu ar y bryniau;
16 y cnydau gorau all y tir eu rhoi,a ffafr yr Un oedd yn y berth oedd ar dân.Bendith Duw ar ben Joseff –ar ben yr un oedd y blaenaf o'i frodyr.
17 Mae iddo anrhydedd fel y tarw cyntaf,ac mae ei gyrn fel rhai ychen gwyllt,i gornio'r bobloedd i ben draw'r byd –dyma ddegau o filoedd Effraim a miloedd Manasse.”