19 Byddan nhw'n galw pobloedd at eu mynydd,ac yno'n cyflwyno aberthau iawn.Byddan nhw'n derbyn cyfoeth o'r moroedd,ac yn casglu trysorau o dywod y traeth.”
20 Yna meddai am Gad:“Bendith ar yr Un sy'n gwneud i Gad lwyddo!Bydd yn aros fel llew,yna'n rhwygo'r fraich a'r pen.
21 Mae wedi dewis y rhan orau iddo'i hun –rhan un sy'n rheoli.Daeth gydag arweinwyr y bobl,yn ufudd i ofynion da yr ARGLWYDD,a'i ganllawiau i bobl Israel.”
22 Yna meddai am Dan:“Mae Dan fel llew ifanc;bydd yn llamu allan o Bashan.”
23 Yna meddai am Nafftali:“O Nafftali, sy'n gorlifo o ffafr,ac wedi dy fendithio gymaint gan yr ARGLWYDD,dos i gymryd dy dir i'r gorllewin a'r de.”
24 Yna meddai am Asher:“Mae Asher wedi ei fendithio fwy na'r lleill!Boed i'w frodyr ddangos ffafr ato,a boed iddo drochi ei draed mewn olew olewydd.
25 Bydd y bariau ar dy giatiau o haearn a phres;byddi'n saff tra byddi byw.