26 Does neb tebyg i dy Dduw, o Israel onest;mae'n hedfan drwy'r awyr i dy helpu,a'r cymylau yn gerbyd i'w fawrhydi.
27 Mae'r Duw sydd o'r dechrau'n le diogel,a'i freichiau tragwyddol oddi tanat.Mae wedi gyrru dy elynion ar ffo,ac wedi gorchymyn eu dinistrio.
28 Mae Israel yn cael byw yn saff,ac mae pobl Jacob yn ddiogel,mewn gwlad o ŷd a grawnwin;lle mae gwlith yn disgyn o'r awyr.
29 Rwyt wedi dy fendithio, Israel!Oes pobloedd eraill tebyg i ti? –Pobl sydd wedi'ch achub gan yr ARGLWYDD,Fe ydy'r darian sy'n eich amddiffyn,a'r cleddyf gwych sy'n ymladd ar eich ran.Boed i'ch gelynion grynu o'ch blaen,a chithau'n sathru ar eu cefnau!”