3 Mae'n amlwg ei fod yn caru'r bobl,ac yn gofalu am y rhai sydd wedi eu cysegru iddo.Maen nhw'n gwrando ar ei eiriau,ac yn addoli wrth ei draed.
4 Rhoddodd Moses gyfraith i ni;rhodd sbesial i bobl Jacob.
5 Yr ARGLWYDD oedd brenin Israel onestpan ddaeth arweinwyr y bobla llwythau Israel at ei gilydd.
6 Boed i Reuben gael byw, nid marw,ond fydd ei bobl ddim yn niferus.”
7 Yna meddai am Jwda:“Gwranda, ARGLWYDD, ar lais Jwda,ac una fe gyda'i bobl.Rho nerth rhyfeddol iddo,a helpa fe i ymladd yn erbyn ei elynion.”
8 Yna meddai am Lefi:“I Lefi rhoddaist y Thwmim a'r Wrim,i'r gwas oedd wedi ei gysegru.Profaist e wrth Massa,a dadlau gydag e wrth Ffynnon Meriba.
9 Dwedodd wrth ei rieni, ‘Dw i erioed wedi'ch gweld’,wrth ei frodyr a'i chwiorydd, ‘Pwy ydych chi?’,ac wrth ei blant, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi,’am fod gwneud beth rwyt ti'n ddweud,ac amddiffyn dy ymrwymiad yn bwysicach ganddo.