13 A dyma fe'n dweud wrthoch chi beth oedd yr ymrwymiad roedd e am i chi ei wneud – y Deg Gorchymyn. A dyma fe'n eu hysgrifennu nhw ar ddwy lechen garreg.
14 Dyna hefyd pryd wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i mi ddysgu rheolau a canllawiau eraill i chi eu dilyn yn y wlad dych chi'n mynd drosodd i'w chymryd.
15 Ond byddwch yn ofalus! Wnaethoch chi ddim gweld neb pan oedd yr ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân ar Fynydd Sinai.
16 Felly peidiwch sbwylio popeth drwy gerfio rhyw fath o ddelw – o ddyn neu ferch,
17 anifail, aderyn,
18 ymlusgiad, neu bysgodyn.
19 Wrth edrych i'r awyr ar yr haul, y lleuad a'r sêr i gyd, peidiwch cael eich temtio i'w haddoli nhw. Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi nhw i bawb drwy'r byd i gyd.