18 ymlusgiad, neu bysgodyn.
19 Wrth edrych i'r awyr ar yr haul, y lleuad a'r sêr i gyd, peidiwch cael eich temtio i'w haddoli nhw. Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi nhw i bawb drwy'r byd i gyd.
20 Ond mae wedi eich dewis chi, a'ch arwain chi allan o ffwrnais haearn gwlad yr Aifft, i fod yn bobl sbesial iddo – a dyna ydych chi!
21 “Ond wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi o'ch achos chi. Dwedodd wrtho i na fyddwn i byth yn cael croesi'r Afon Iorddonen a mynd i mewn i'r wlad dda mae e ar fin ei rhoi i chi.
22 Dyma ble bydda i'n marw. Ond dych chi'n mynd i groesi'r Iorddonen a chymryd y tir da yna.
23 Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei wneud gyda chi. Peidiwch cerfio delw o unrhyw fath – mae e wedi dweud yn glir na ddylech chi wneud peth felly.
24 Tân sy'n difa ydy Duw! Mae'n Dduw eiddigeddus!