2 Peidiwch ychwanegu dim, na chymryd dim i ffwrdd. Gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw ydyn nhw, felly cadwch nhw!
3 Gwelsoch beth wnaeth yr ARGLWYDD yn Baal-peor. Lladdodd yr ARGLWYDD bawb wnaeth addoli duw Baal-peor.
4 Ond mae pawb ohonoch chi wnaeth aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eu Duw, yn dal yn fyw.
5 Gwrandwch, dw i'n dysgu i chi'r rheolau a'r canllawiau mae Duw wedi eu rhoi i mi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad dych chi'n mynd iddi i'w chymryd drosodd.
6 Felly, cadwch nhw. Dilynwch nhw. A pan fydd pobl yn dysgu amdanyn nhw, byddan nhw'n dweud, ‘Mae'n wir, mae pobl y wlad yma yn ddoeth a deallus.’
7 “Pa genedl arall sydd â duw sydd mor agos atyn nhw? Mae'r ARGLWYDD ein Duw yna bob tro dŷn ni'n galw arno.
8 A pa wlad arall sydd â rheolau a chanllawiau mor deg â'r casgliad yma o gyfreithiau dw i'n eu rhannu gyda chi heddiw?