35 Mae wedi dangos i chi mai Un Duw sydd, a does dim un arall yn bod.
36 Gadawodd i chi glywed ei lais o'r nefoedd, i'ch dysgu chi. Ac ar y ddaear dangosodd i chi y tân mawr, a siarad â chi o ganol hwnnw.
37 Ac am ei fod wedi caru'ch hynafiaid chi, dewisodd fendithio eu disgynyddion. Defnyddiodd ei nerth ei hun i ddod â chi allan o'r Aifft,
38 i chi gymryd tir pobloedd cryfach na chi oddi arnyn nhw. Daeth â chi yma heddiw i roi eu tir nhw i chi ei gadw.
39 “Felly dw i eisiau i hyn i gyd gael ei argraffu ar eich meddwl chi – dw i eisiau i chi sylweddoli fod Duw yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear. Does dim un arall yn bod!
40 Rhaid i chi gadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n ei basio ymlaen i chi ganddo heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi a'ch plant. A byddwch chi'n cael byw am amser hir iawn yn y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi i'w gadw.”
41 Yna dyma Moses yn dewis tair tref i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen yn drefi lloches.