42 Byddai unrhyw un sy'n lladd person arall yn ddamweiniol, heb fwriadu unrhyw ddrwg iddo, yn gallu dianc am loches i un o'r trefi yma.
43 Y tair tref oedd Betser, yn anialwch y byrdd-dir, i lwyth Reuben; Ramoth yn Gilead i lwyth Gad; a Golan yn Bashan i lwyth Manasse.
44 Dyma'r gyfraith wnaeth Moses ei chyflwyno i bobl Israel –
45 y gofynion, y rheolau a'r canllawiau roddodd e i bobl Israel ar ôl dod â nhw allan o wlad yr Aifft,
46 pan oedden nhw'n dal ar ochr ddwyreiniol yr Afon Iorddonen. Roedden nhw yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor – sef yr ardal oedd yn arfer cael ei rheoli gan Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon. Nhw wnaeth Moses a pobl Israel ymosod arnyn nhw pan ddaethon nhw allan o'r Aifft.
47 Dyma nhw'n cymryd ei dir e, a tir Og, brenin Bashan – y ddau ohonyn nhw yn teyrnasu ar yr ardaloedd i'r dwyrain o'r Iorddonen.
48 Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn o dref Aroer, ar ymyl Ceunant Arnon, yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd.