1 Dyma Moses yn galw pobl Israel at ei gilydd ac yn dweud wrthyn nhw: “Israel, gwrandwch ar y rheolau a'r canllawiau dw i'n ei rhoi i chi heddiw. Dw i eisiau i chi eu dysgu nhw, a'u cadw nhw.
2 “Roedd yr ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud ymrwymiad gyda ni wrth fynydd Sinai.
3 Gwnaeth hynny nid yn unig gyda'n rhieni, ond gyda ni sy'n fyw yma heddiw.
4 Siaradodd Duw gyda ni wyneb yn wyneb, o ganol y tân ar y mynydd.