26 Oes yna unrhyw un erioed wedi clywed llais y Duw byw yn siarad o ganol y tân, fel dŷn ni wedi gwneud, ac wedi byw wedyn?
27 Dos di i wrando ar bopeth mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei ddweud, ac wedyn cei ddod yn ôl i ddweud wrthon ni. A byddwn ni'n gwneud popeth mae e'n ddweud.’
28 “Roedd yr ARGLWYDD wedi'ch clywed chi'n siarad hefo fi, a dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dw i wedi clywed beth mae'r bobl wedi ei ddweud wrthot ti. Maen nhw'n iawn.
29 Piti na fydden nhw'n dangos yr un parch ata i bob amser, ac eisiau gwneud beth dw i'n ddweud. Byddai pethau'n mynd yn dda iddyn nhw wedyn ar hyd y cenedlaethau.
30 Dos i ddweud wrthyn nhw am fynd yn ôl i'w pebyll.
31 Ond aros di yma, i mi gael dweud wrthot ti beth ydy'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau dw i am i ti eu dysgu iddyn nhw. Wedyn byddan nhw'n gallu byw felly yn y wlad dw i'n ei rhoi iddyn nhw.’
32 “Felly, gwnewch yn union fel mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ddweud. Peidiwch crwydro oddi wrth hynny o gwbl.