10 “Roedd yr ARGLWYDD wedi addo rhoi gwlad i'ch hynafiaid, Abraham, Isaac a Jacob – lle mae dinasoedd mawr hardd wnaethoch chi ddim eu hadeiladu;
11 tai yn llawn pethau wnaethoch chi mo'i casglu; pydewau wnaethoch chi ddim eu cloddio; gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo'i plannu. Digon i'w fwyta!
12 Pan fydd yr ARGLWYDD yn dod â chi i'r wlad yna, peidiwch anghofio'r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.
13 Rhaid i chi barchu'r ARGLWYDD eich Duw, a'i wasanaethu e, a defnyddio ei enw e'n unig i dyngu llw.
14 Peidiwch addoli duwiau'r bobl o'ch cwmpas chi.
15 Cofiwch fod yr ARGLWYDD eich Duw, sydd gyda chi, yn Dduw eiddigeddus. Bydd e'n digio gyda chi ac yn eich gyrru chi allan o'r wlad.
16 “Paid rhoi'r ARGLWYDD dy Dduw ar brawf, fel y gwnest ti yn Massa.