12 Pan fydd yr ARGLWYDD yn dod â chi i'r wlad yna, peidiwch anghofio'r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.
13 Rhaid i chi barchu'r ARGLWYDD eich Duw, a'i wasanaethu e, a defnyddio ei enw e'n unig i dyngu llw.
14 Peidiwch addoli duwiau'r bobl o'ch cwmpas chi.
15 Cofiwch fod yr ARGLWYDD eich Duw, sydd gyda chi, yn Dduw eiddigeddus. Bydd e'n digio gyda chi ac yn eich gyrru chi allan o'r wlad.
16 “Paid rhoi'r ARGLWYDD dy Dduw ar brawf, fel y gwnest ti yn Massa.
17 Gwnewch yn union beth mae'n ei orchymyn i chi, cadw ei ofynion a dilyn ei ganllawiau.
18-19 Gwnewch beth sy'n iawn yn ei olwg, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'ch gelynion chi allan a byddwch yn cymryd drosodd y wlad dda wnaeth Duw addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi.