20 Yna pan fydd eich plant yn gofyn i chi, ‘Pam wnaeth Duw roi'r gofynion a'r rheolau a'r canllawiau yma i ni?’
21 atebwch, ‘Roedden ni'n gaethweision y Pharo yn yr Aifft, ond dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft.
22 Gwelon ni e'n gwneud pethau ofnadwy i wlad yr Aifft ac i'r Pharo a'i deulu – gwyrthiau rhyfeddol.
23 Gollyngodd ni'n rhydd er mwyn rhoi i ni'r wlad roedd e wedi ei haddo i'n hynafiaid.
24 Dwedodd wrthon ni am gadw'r rheolau yma i gyd, a'i barchu e, er mwyn i bethau fynd yn dda i ni, ac iddo'n cadw ni'n fyw fel mae wedi gwneud hyd heddiw.
25 Bydd pethau'n iawn gyda ni os gwnawn ni gadw'r gorchmynion yma fel mae'r ARGLWYDD wedi gofyn i ni wneud.’