4 “Gwranda Israel! Yr ARGLWYDD ein Duw ydy'r unig ARGLWYDD.
5 Rwyt i garu'r ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid a dy holl nerth.
6 “Paid anghofio'r pethau dw i'n eu gorchymyn i ti heddiw.
7 Rwyt i'w dysgu'n gyson i dy blant, a'i trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi yn y bore.
8 Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio.
9 Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau'r dref.
10 “Roedd yr ARGLWYDD wedi addo rhoi gwlad i'ch hynafiaid, Abraham, Isaac a Jacob – lle mae dinasoedd mawr hardd wnaethoch chi ddim eu hadeiladu;