6 “Paid anghofio'r pethau dw i'n eu gorchymyn i ti heddiw.
7 Rwyt i'w dysgu'n gyson i dy blant, a'i trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi yn y bore.
8 Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio.
9 Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau'r dref.
10 “Roedd yr ARGLWYDD wedi addo rhoi gwlad i'ch hynafiaid, Abraham, Isaac a Jacob – lle mae dinasoedd mawr hardd wnaethoch chi ddim eu hadeiladu;
11 tai yn llawn pethau wnaethoch chi mo'i casglu; pydewau wnaethoch chi ddim eu cloddio; gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo'i plannu. Digon i'w fwyta!
12 Pan fydd yr ARGLWYDD yn dod â chi i'r wlad yna, peidiwch anghofio'r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.