8 Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio.
9 Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau'r dref.
10 “Roedd yr ARGLWYDD wedi addo rhoi gwlad i'ch hynafiaid, Abraham, Isaac a Jacob – lle mae dinasoedd mawr hardd wnaethoch chi ddim eu hadeiladu;
11 tai yn llawn pethau wnaethoch chi mo'i casglu; pydewau wnaethoch chi ddim eu cloddio; gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo'i plannu. Digon i'w fwyta!
12 Pan fydd yr ARGLWYDD yn dod â chi i'r wlad yna, peidiwch anghofio'r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.
13 Rhaid i chi barchu'r ARGLWYDD eich Duw, a'i wasanaethu e, a defnyddio ei enw e'n unig i dyngu llw.
14 Peidiwch addoli duwiau'r bobl o'ch cwmpas chi.