15 Bydd yr ARGLWYDD yn eich amddiffyn rhag salwch, a fyddwch chi ddim yn dioddef o'r heintiau wnaeth daro'r Aifft. Eich gelynion fydd yn dioddef o'r pethau yna.
16 “Rhaid i chi ddinistrio'r bobl fydd yr ARGLWYDD yn eich galluogi chi i'w concro nhw. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw, a peidiwch addoli eu duwiau, neu bydd hi ar ben arnoch chi.
17 Falle dy fod yn gofyn, ‘Sut ydyn ni'n mynd i lwyddo i gymryd tir y bobloedd yma? – mae mwy ohonyn nhw nag sydd ohonon ni!’
18 Peidiwch poeni! Cofiwch beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r Pharo ac i wlad yr Aifft.
19 Defnyddiodd ei rym a'i nerth, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol i ddod â chi allan o'r Aifft. A bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud yr un fath eto i'r bobl yma dych chi'n eu hofni.
20 Bydd e'n achosi panig llwyr yn eu plith nhw. Bydd rhai yn ceisio cuddio oddi wrthoch chi, ond byddan nhw i gyd yn cael eu lladd yn y diwedd.
21 “Peidiwch bod ag ofn. Mae'r ARGLWYDD eich Duw gyda chi, ac mae e'n Dduw mawr a rhyfeddol.