3 Peidiwch gadael i'ch plant eu priodi nhw,
4 rhag i'ch plant droi cefn ar yr ARGLWYDD, ac addoli duwiau eraill. Wedyn byddai'r ARGLWYDD yn gwylltio gyda chi, ac yn eich dinistrio chi'n llwyr!
5 Na, rhaid i chi chwalu eu hallorau paganaidd nhw, malu'r colofnau cysegredig, torri polion y dduwies Ashera i lawr, a llosgi eu delwau nhw.
6 Dych chi'n bobl sydd wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae wedi eich dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun.
7 Wnaeth e ddim eich dewis chi am fod mwy ohonoch chi na'r bobloedd eraill i gyd – roedd llai ohonoch chi os rhywbeth!
8 Na, dewisodd yr ARGLWYDD chi am ei fod wedi'ch caru chi, ac am gadw'r addewid wnaeth e i'ch hynafiaid chi. Dyna pam wnaeth e ddefnyddio'i rym i'ch gollwng chi'n rhydd o fod yn gaethweision i'r Pharo, brenin yr Aifft.
9 Felly peidiwch anghofio mai'r ARGLWYDD eich Duw chi ydy'r unig dduw go iawn. Mae e'n Dduw ffyddlon, a bydd e bob amser yn cadw'r ymrwymiad mae wedi ei wneud i'r rhai sy'n ei garu ac yn gwneud beth mae e'n ddweud.