6 Felly dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD ddim yn rhoi'r tir da yma i chi am eich bod chi'n bobl dda. Dych chi'n bobl benstiff!
7 “Cofiwch – peidiwch byth anghofio – sut wnaethoch chi ddigio'r ARGLWYDD eich Duw pan oeddech chi yn yr anialwch. Dych chi ddim wedi stopio gwrthryfela yn ei erbyn ers y diwrnod daethoch chi allan o'r Aifft.
8 Roeddech wedi ei ddigio yn Sinai, ac roedd yn mynd i'ch dinistrio chi.
9 Pan es i i fyny'r mynydd i dderbyn y llechi carreg, sef llechi ymrwymiad yr ARGLWYDD i chi, dyma fi'n aros yno nos a dydd am bedwar deg diwrnod, heb fwyta nac yfed o gwbl.
10 A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r ddwy lechen garreg i mi, gydag ysgrifen Duw ei hun arnyn nhw. Y Deg Gorchymyn roedd e wedi eu rhoi i chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd.
11 “Ar ddiwedd y cyfnod o bedwar deg diwrnod dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r ddwy lechen garreg i mi, llechi'r ymrwymiad.
12 Yna dwedodd, ‘Dos yn ôl i lawr ar unwaith, mae'r bobl wnest ti eu harwain allan o'r Aifft wedi pechu! Maen nhw wedi troi cefn ar y ffordd wnes i ei rhoi iddyn nhw'n barod, ac wedi gwneud delw o fetel tawdd.’