10 Mae'r gelyn wedi cymrydei thrysorau hi i gyd.Ydy, mae hi wedi gorfod gwylio milwyr paganaiddyn mynd i mewn i'r deml sanctaidd.Ie, y bobl wnest ti wrthod gadael iddyn nhwfod yn rhan o'r gynulleidfa o addolwyr!
11 Mae pobl Jerwsalem yn griddfanwrth chwilio am rywbeth i'w fwyta.Maen nhw'n gorfod gwerthu popeth gwerthfawri gael bwyd i gadw'n fyw.“Edrych, ARGLWYDD,dw i'n dda i ddim bellach!”
12 Ydy e ddim bwys i chi sy'n pasio heibio?Edrychwch arna i'n iawn.Oes rhywun wedi diodde fel dw i wedi diodde?Yr ARGLWYDD wnaeth hyn i mipan oedd wedi digio'n lân.
13 Anfonodd dân i lawr o'r nefoedd,oedd yn llosgi yn fy esgyrn.Gosododd rwyd i'm dal i,rhag i mi fynd ddim pellach.Mae wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun;dw i'n teimlo'n sâl drwy'r amser.
14 Mae ngwrthryfel wedi ei rwymo fel iau ar fy ngwddf.Duw ei hun sydd wedi ei rwymo.Mae e wedi gosod ei iau ar fy ngwar,a'm gwneud i yn hollol wan.Mae'r Meistr wedi fy rhoi yn nwylo'r gelyn,ac alla i wneud dim yn eu herbyn.
15 Mae'r Meistr wedi taflu allan y milwyr dewroedd yn fy amddiffyn.Mae wedi galw byddin i ymladd yn fy erbynac i sathru fy milwyr ifanc dan draed.Ydy, mae'r Meistr wedi sathru pobl Jwda annwylfel sathru grawnwin mewn gwinwasg.
16 Dyna pam dw i'n crïo.Dyna pam mae'r dagrau'n llifo.Does gen i neb wrth law i'm cysuro;neb i godi fy nghalon.Does gan fy mhlant ddim dyfodol.Mae'r gelyn wedi eu gorchfygu.