Galarnad 5 BNET

Cerdd 5 – Gweddi am drugaredd

1 ARGLWYDD, cofia beth sydd wedi digwydd i ni.Edrycha arnon ni yn ein cywilydd!

2 Mae'n gwlad wedi ei rhoi yn nwylo'r gelyn,a'n cartrefi wedi eu meddiannu gan bobl estron.

3 Dŷn ni fel plant amddifad, heb dadau,ac mae ein mamau fel gwragedd gweddwon.

4 Rhaid i ni brynu dŵr i'w yfed,a thalu am y coed tân dŷn ni'n ei gasglu.

5 Dŷn ni'n cael ein gyrru fel anifeiliaid â iau ar eu gwarrau;wedi blino'n lân, ac yn cael dim gorffwys.

6 Gwnaethon gytundeb gyda'r Aifft ac Asyria,er mwyn cael digon o fwyd i fyw.

7 Roedd ein hynafiaid, sy'n farw bellach, wedi pechu;a dŷn ni'n diodde canlyniadau eu drygioni nhw.

8 Mae caethweision yn feistri arnon ni,a does neb yn gallu'n hachub ni o'u gafael nhw.

9 Dŷn ni'n gorfod mentro'n bywydau i nôl bwyd,am fod lladron arfog yn cuddio yng nghefn gwlad.

10 Mae newyn yn achosi i ni ddiodde o dwymyn;mae ein croen yn teimlo'n boeth fel ffwrn.

11 Mae'r gwragedd yn cael eu treisio yn Seion,a'r merched ifanc yn nhrefi Jwda.

12 Mae'r gelyn wedi crogi ein harweinwyr,a cham-drin y rhai hynaf ohonynt.

13 Mae'r dynion ifanc yn cael eu gorfodi i weithio'r maen melin,a'r bechgyn yn baglu wrth gario llwyth o goed.

14 Dydy'r arweinwyr hŷn ddim yn cyfarfod wrth giât y ddinas,ac mae'r bechgyn ifanc wedi stopio canu eu cerddoriaeth.

15 Mae pob llawenydd wedi diflannu;yn lle dawnsio dŷn ni'n galaru.

16 Mae'r dathlu wedi dod i ben.Gwae ni, dŷn ni wedi pechu!

17 Dŷn ni'n teimlo'n sâl, ac wedi colli pob hyder;mae'r sbarc wedi diflannu o'n llygaid,

18 am fod Mynydd Seion yn gorwedd yn wag;dim ond siacaliaid sydd yno'n prowla.

19 Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn teyrnasu am byth;mae dy orsedd yn para ar hyd y cenedlaethau.

20 Pam wyt ti wedi anghofio amdanon ni?Pam wyt ti wedi troi cefn arnon ni mor hir?

21 Tynn ni'n ôl atat dy hun, ARGLWYDD, i ni droi nôl.Gwna ni eto fel roedden ni ers talwm.

22 Neu wyt ti wedi'n gwrthod ni'n llwyr?Wyt ti wedi digio'n lân gyda ni?

Penodau

1 2 3 4 5