Galarnad 4 BNET

Cerdd 4 – Dinistr Jerwsalem

1 O! Mae'r aur wedi colli ei sglein.Dydy'r aur pur ddim yn edrych fel aur ddim mwy!Mae gemau gwerthfawr ar chwâlar gornel pob stryd.

2 Roedd plant gwerthfawr Seionyn werth eu pwysau mewn aur.Ond bellach – O! maen nhw mor ddiwertha photiau pridd wedi eu gwneud gan grochenydd!

3 Mae hyd yn oed y siacal yn magu ei rai bachac yn eu bwydo ar y fron,ond mae fy mhobl i yn esgeulus o'u plantfel yr estrys yn yr anialwch.

4 Mae tafodau'r babanod yn glynu i dop eu cegauam fod syched arnyn nhw.Mae plant bach yn cardota am fwyd,ond does neb yn rhoi unrhyw beth iddyn nhw.

5 Mae'r bobl oedd yn arfer gwledda ar fwydydd moethusyn marw o newyn ar y strydoedd.Mae'r rhai gafodd eu magu mewn dillad crandyn crafu drwy'r sbwriel am rywbeth bach.

6 Mae fy mhobl wedi cael eu cosbi am eu pechodfwy na gafodd Sodom am ei gwrthryfel.Cafodd Sodom ei dinistrio'n sydyn gan Dduw,heb i neb droi llaw i'w helpu.

7 Roedd arweinwyr Jerwsalem yn lanach na'r eiraac wyn fel llaeth.Roedd eu cyrff yn iach,ac yn sgleinio fel cwrel neu saffir.

8 Ond bellach mae eu hwynebau yn ddu fel parddu.Does neb yn eu nabod nhw ar y strydoedd.Dŷn nhw'n ddim byd ond croen ac asgwrn,ac mae eu croen wedi sychu fel pren.

9 Roedd y rhai gafodd eu lladd gyda'r cleddyfyn fwy ffodus na'r rhai sy'n marw o newyn –y rhai mae bywyd yn llifo'n araf ohonyn nhw,am fod ganddyn nhw ddim i'w fwyta.

10 Pan gafodd fy mhobl eu dinistrio,roedd mamau, oedd unwaith yn dyner,yn coginio eu plant i'w bwyta!

11 Dyma'r ARGLWYDD yn bwrw arnom ei lid i gyd.Tywalltodd ei ddig ffyrniga chynnau tânwnaeth losgi sylfeini Seion.

12 Doedd dim un brenin wedi dychmygu,na neb arall drwy'r byd i gyd,y gallai unrhyw elyn neu ymosodwrgoncro dinas Jerwsalem.

13 Ond dyna ddigwyddodd, am fod ei phroffwydi wedi pechua'i hoffeiriaid wedi gwrthryfela.Nhw oedd gyfrifol am ladd pobl ddiniwedyn y ddinas.

14 Maen nhw'n crwydro'r strydoedd fel pobl ddall.Does neb yn beiddio cyffwrdd eu dillad nhw,am fod y gwaed wnaethon nhw ei dywalltwedi eu gwneud nhw'n aflan.

15 Mae pobl yn gweiddi arnyn nhw, “Cadwch draw! Dych chi'n aflan!Ewch i ffwrdd! Peidiwch cyffwrdd ni!”Felly dyma nhw'n ffoi ac maen nhw'n crwydro o gwmpaso un wlad i'r llall heb gael croeso yn unman.

16 Yr ARGLWYDD ei hun wnaeth eu gyrru ar chwâl,a dydy e ddim yn gofalu amdanyn nhw ddim mwy.Does neb yn dangos parch at yr offeiriaid,a does neb yn malio am yr arweinwyr.

17 Roedd ein llygaid ni wedi blinowrth i ni wastraffu'n hamser yn edrych am help.Roedden ni'n edrych allan o'r tŵr gwylioyn disgwyl am wlad wnaeth ddim dod i'n hachub ni.

18 Roedd ein gelynion yn ein hela bob cam o'r ffordd.Doedd hi ddim yn saff i ni fynd allan i'r strydoedd hyd yn oed.Roedd y diwedd yn agos; roedd ein dyddiau wedi eu rhifo;oedd, roedd y diwedd wedi dod!

19 Daeth y gelyn ar ein holau.Roedden nhw'n gyflymach nag eryrod.Roedden nhw'n ein hela ni ar y bryniau,ac yn disgwyl i ymosod arnon ni yn yr anialwch.

20 Cafodd anadl bywyd y genedl,sef y brenin oedd wedi ei eneinio gan yr ARGLWYDD,ei ddal mewn trap ganddyn nhw.Dyma'r un oedden ni'n credu fyddai'n ein hamddiffyn,a'n galluogi i oroesi yng nghanol y cenhedloedd.

21 Chwarddwch chi am y tro, bobl Edom,a chi sy'n byw yn ngwlad Us,ond mae'ch tro chi yn dod!Bydd rhaid i chithau yfed o gwpan barn Duw,nes byddwch chi'n feddw ac yn noeth.

22 Dych chi wedi cael eich cosbi, bobl Jerwsalem,ond fyddwch chi ddim yn aros yn gaethion yn hir iawn.Ond bydd Duw yn eich cosbi chi am eich pechod, bobl Edom.Bydd eich drygioni yn dod i'r amlwg.

Penodau

1 2 3 4 5