Galarnad 1:7-13 BNET

7 Mae Jerwsalem, sy'n dlawd a digartre,yn cofio ei holl drysorau –sef y pethau gwerthfawr oedd piau hi o'r blaen.Pan gafodd ei choncro gan ei gelyniondoedd neb yn barod i'w helpu.Roedd ei gelynion wrth eu boddau,ac yn chwerthin yn ddirmygus wrth iddi gael ei dinistrio.

8 Roedd Jerwsalem wedi pechu'n ofnadwy,felly cafodd ei thaflu i ffwrdd fel peth aflan.Mae pawb oedd yn ei hedmygu bellach yn gwneud sbortwrth ei gweld hi'n noeth.A dyna lle mae hithau'n griddfan ar lawrac yn cuddio ei hwyneb mewn cywilydd.

9 Wnaeth hi ddim meddwl beth fyddai'n digwydd yn y diwedd.Mae gwaed ei misglwyf wedi difetha ei dillad.Roedd ei chwymp yn rhyfeddol!Doedd neb yno i'w chysuro.“O ARGLWYDD, edrych arna i'n diodde!” meddai,“Mae'r gelyn wedi fy nghuro.”

10 Mae'r gelyn wedi cymrydei thrysorau hi i gyd.Ydy, mae hi wedi gorfod gwylio milwyr paganaiddyn mynd i mewn i'r deml sanctaidd.Ie, y bobl wnest ti wrthod gadael iddyn nhwfod yn rhan o'r gynulleidfa o addolwyr!

11 Mae pobl Jerwsalem yn griddfanwrth chwilio am rywbeth i'w fwyta.Maen nhw'n gorfod gwerthu popeth gwerthfawri gael bwyd i gadw'n fyw.“Edrych, ARGLWYDD,dw i'n dda i ddim bellach!”

12 Ydy e ddim bwys i chi sy'n pasio heibio?Edrychwch arna i'n iawn.Oes rhywun wedi diodde fel dw i wedi diodde?Yr ARGLWYDD wnaeth hyn i mipan oedd wedi digio'n lân.

13 Anfonodd dân i lawr o'r nefoedd,oedd yn llosgi yn fy esgyrn.Gosododd rwyd i'm dal i,rhag i mi fynd ddim pellach.Mae wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun;dw i'n teimlo'n sâl drwy'r amser.