11 Mae fy llygaid innau'n llawn dagrau.Mae fy stumog yn corddi y tu mewn i mi.Mae'r hyn sydd wedi digwydd i'm poblyn fy ngwneud i'n sâl.Mae plant a babis bach yn llwgu a llewyguar strydoedd y ddinas!
12 Mae plant yn galw ar eu mamau.“Dw i eisiau bwyd. Dw i eisiau diod.”Maen nhw'n llewygu ar y strydoeddfel milwyr wedi eu hanafu.Maen nhw'n marw yn arafym mreichiau eu mamau.
13 Dw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud.Dw i wedi gweld dim byd tebyg.Jerwsalem annwyl,beth alla i ei wneud i dy helpu di?Mae dy anaf mor ddwfn â'r môr mawr;does neb yn gallu dy iacháu.
14 Roedd gweledigaethau dy broffwydiyn gelwydd ac yn dwyll!Yn lle gwneud pethau'n iawn etodrwy ddangos dy bechod i ti,roedden nhw'n cyhoeddi pethau ffalsac yn dy gamarwain di.
15 Mae pawb sy'n pasio heibioyn curo dwylo'n wawdlyd.Maen nhw'n chwibanu'n ddirmygusac yn ysgwyd eu pennau ar Jerwsalem druan.“Ha! Felly dyma'r un oedd yn cael ei disgrifio fel‘y ddinas harddaf un sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus’?”
16 Mae dy elynion i gydyn gwneud hwyl am dy ben;yn gwawdio ac yn gwneud ystumiau arnat.“Dŷn ni wedi ei dinistrio hi!” medden nhw.“Roedden ni wedi edrych ymlaen at y diwrnod yma,ac o'r diwedd mae wedi dod!”
17 Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth oedd yn ei fwriadu.Mae wedi gwneud beth oedd yn ei ddweud.Roedd wedi bygwth hyn ers talwm.Mae wedi dinistrio heb ddangos trugaredd.Mae wedi gadael i'r gelyn ddathlu dy orchfygu,ac ymffrostio fod ei fyddin mor bwerus.