16 Mae dy elynion i gydyn gwneud hwyl am dy ben;yn gwawdio ac yn gwneud ystumiau arnat.“Dŷn ni wedi ei dinistrio hi!” medden nhw.“Roedden ni wedi edrych ymlaen at y diwrnod yma,ac o'r diwedd mae wedi dod!”
17 Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth oedd yn ei fwriadu.Mae wedi gwneud beth oedd yn ei ddweud.Roedd wedi bygwth hyn ers talwm.Mae wedi dinistrio heb ddangos trugaredd.Mae wedi gadael i'r gelyn ddathlu dy orchfygu,ac ymffrostio fod ei fyddin mor bwerus.
18 Gwaeddwch yn daer ar yr Arglwydd!O waliau Jerwsalem, gadewch i'r dagraulifo fel afon ddydd a nos!Peidiwch gorffwyso;peidiwch gadael i'r dagrau stopio!
19 Cod! Gwaedda am help yn y nos!Gwna hynny drosodd a throsodd.Tywallt beth sydd ar dy galono flaen yr Arglwydd!Estyn dy ddwylo ato mewn gweddi,i bledio dros y plantsy'n marw o newynar gornel pob stryd.
20 Edrych! ARGLWYDD, meddylia am y peth!I bwy arall wyt ti wedi gwneud hyn?Ydy'n iawn fod gwragedd yn bwyta'r plantmaen nhw wedi gofalu amdanyn nhw?Ddylai offeiriaid a phroffwydigael eu lladd yn nheml yr ARGLWYDD?
21 Mae hen ac ifanc yn gorwedd yn farwar lwch y strydoedd.Bechgyn a merched ifancwedi eu taro gan gleddyf y gelyn.Ti wnaeth hyn pan ddangosaist dy lid ffyrnig.Lleddaist nhw yn ddidrugaredd.
22 Cafodd y gelyn, oedd yn creu dychryn ym mhobman,wahoddiad gen ti, fel petai'n ddydd Gŵyl.Ond diwrnod i ti ddangos dy lid ffyrnig oedd e,a doedd neb i ddianc na chael byw.Do, lladdodd y gelyny plant wnes i eu mwytho a'u magu.