4 Roedd fel gelyn yn anelu ei fwa saeth,a'i law dde yn barod i saethu.Lladdodd bawb oedd yn annwylyn ei olwg.Do, tywalltodd ei lid fel tânar gartrefi Jerwsalem.
5 Roedd yr Arglwydd fel gelynyn dinistrio Israel.Mae wedi dinistrio'r plastai i gyd,a dymchwel ei chaerau amddiffynnol.Bellach, dim ond griddfan a galarsydd i'w glywed drwy wlad Jwda.
6 Mae wedi chwalu ei deml fel caban mewn gwinllan.Mae wedi dinistrio canolfan y gwyliau sanctaidd.Daeth pob Gŵyl grefyddola Saboth i ben yn Seion.Yn ei lid ffyrnig trodd ei gefnar y brenin a'r offeiriaid.
7 Mae'r Meistr wedi gwrthod ei allor.Mae wedi troi cefn ar ei deml.Mae wedi gadael i'r gelynrwygo ei waliau i lawr.Roedd sŵn y gelyn yn gweiddi yn nheml yr ARGLWYDDfel sŵn pobl yn dathlu yno ar ddydd Gŵyl.
8 Roedd yr ARGLWYDD yn benderfynolo droi waliau dinas Jerwsalem yn adfeilion.Roedd wedi cynllunio'n ofalus beth i'w wneud,ac aeth ati i'w dinistrio nhw'n llwyr.Bellach mae'r waliau oedd yn amddiffyn y ddinasyn gorwedd yn llesg fel pobl yn galaru.
9 Mae giatiau'r ddinas yn gorwedd ar lawr,a'r barrau oedd yn eu cloi wedi malu.Mae'r brenin a'r arweinwyr wedi eu cymryd yn gaeth.Does neb i roi arweiniad o'r Gyfraith,a does gan y proffwydi ddim gweledigaethgan yr ARGLWYDD.
10 Mae'r henoed sydd ar ôl yn Jerwsalemyn eistedd ar lawr yn hollol dawel.Maen nhw wedi taflu pridd ar eu pennauac yn gwisgo sachliain yn eu tristwch.Mae merched ifanc Jerwsalemyn syllu ar lawr yn ddigalon.