8 Roedd yr ARGLWYDD yn benderfynolo droi waliau dinas Jerwsalem yn adfeilion.Roedd wedi cynllunio'n ofalus beth i'w wneud,ac aeth ati i'w dinistrio nhw'n llwyr.Bellach mae'r waliau oedd yn amddiffyn y ddinasyn gorwedd yn llesg fel pobl yn galaru.
9 Mae giatiau'r ddinas yn gorwedd ar lawr,a'r barrau oedd yn eu cloi wedi malu.Mae'r brenin a'r arweinwyr wedi eu cymryd yn gaeth.Does neb i roi arweiniad o'r Gyfraith,a does gan y proffwydi ddim gweledigaethgan yr ARGLWYDD.
10 Mae'r henoed sydd ar ôl yn Jerwsalemyn eistedd ar lawr yn hollol dawel.Maen nhw wedi taflu pridd ar eu pennauac yn gwisgo sachliain yn eu tristwch.Mae merched ifanc Jerwsalemyn syllu ar lawr yn ddigalon.
11 Mae fy llygaid innau'n llawn dagrau.Mae fy stumog yn corddi y tu mewn i mi.Mae'r hyn sydd wedi digwydd i'm poblyn fy ngwneud i'n sâl.Mae plant a babis bach yn llwgu a llewyguar strydoedd y ddinas!
12 Mae plant yn galw ar eu mamau.“Dw i eisiau bwyd. Dw i eisiau diod.”Maen nhw'n llewygu ar y strydoeddfel milwyr wedi eu hanafu.Maen nhw'n marw yn arafym mreichiau eu mamau.
13 Dw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud.Dw i wedi gweld dim byd tebyg.Jerwsalem annwyl,beth alla i ei wneud i dy helpu di?Mae dy anaf mor ddwfn â'r môr mawr;does neb yn gallu dy iacháu.
14 Roedd gweledigaethau dy broffwydiyn gelwydd ac yn dwyll!Yn lle gwneud pethau'n iawn etodrwy ddangos dy bechod i ti,roedden nhw'n cyhoeddi pethau ffalsac yn dy gamarwain di.