1 Dw i yn ddyn sy'n gwybod beth ydy dioddef.Mae gwialen llid Duw wedi fy nisgyblu i.
2 Mae e wedi fy ngyrru i ffwrddi fyw yng nghanol tywyllwch dudew.
3 Ydy, mae wedi fy nharo i dro ar ôl tro,yn ddi-stop.
4 Mae wedi curo fy nghorff yn ddim,ac wedi torri fy esgyrn.
5 Mae fel byddin wedi fy amgylchynu,yn ymosod arna i gyda gwasgfa chwerw.
6 Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwchfel y rhai sydd wedi marw ers talwm.
7 Mae wedi cau amdana i, ac alla i ddim dianc.Mae'n fy nal i lawr gyda chadwyni trymion.