11 Llusgodd fi i ffwrdd a'm rhwygo'n ddarnau.Allwn i wneud dim i amddiffyn fy hun.
12 Anelodd ei fwa saeth ata i;fi oedd ei darged.
13 Gollyngodd ei saethaua'm trywanu yn fy mherfedd.
14 Mae fy mhobl wedi fy ngwneud i'n destun sbort,ac yn fy ngwawdio i ar gân.
15 Mae e wedi gwneud i mi fwyta llysiau chwerw;mae wedi llenwi fy mol gyda'r wermod.
16 Mae wedi gwneud i mi gnoi graean,ac wedi rhwbio fy ngwyneb yn y baw.
17 Does gen i ddim tawelwch meddwl;dw i wedi anghofio beth ydy bod yn hapus.