14 Mae fy mhobl wedi fy ngwneud i'n destun sbort,ac yn fy ngwawdio i ar gân.
15 Mae e wedi gwneud i mi fwyta llysiau chwerw;mae wedi llenwi fy mol gyda'r wermod.
16 Mae wedi gwneud i mi gnoi graean,ac wedi rhwbio fy ngwyneb yn y baw.
17 Does gen i ddim tawelwch meddwl;dw i wedi anghofio beth ydy bod yn hapus.
18 Dywedais, “Alla i ddim cario mlaen.Dw i wedi colli pob gobaith yn yr ARGLWYDD.”
19 Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartreyn brofiad chwerw!
20 Mae ar fy meddwl drwy'r amser,ac mae'n fy ngwneud yn isel fy ysbryd.