19 Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartreyn brofiad chwerw!
20 Mae ar fy meddwl drwy'r amser,ac mae'n fy ngwneud yn isel fy ysbryd.
21 Ond wedyn dw i'n cofio hyn,a dyma sy'n rhoi gobaith i mi:
22 Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd,a'i garedigrwydd e'n para am byth.
23 Maen nhw'n dod yn newydd bob bore.“ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!”
24 “Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,” meddwn i,“felly ynddo fe dw i'n gobeithio.”
25 Mae'r ARGLWYDD yn dda i'r rhai sy'n ei drystio,ac i bwy bynnag sy'n troi ato am help.