3 Ydy, mae wedi fy nharo i dro ar ôl tro,yn ddi-stop.
4 Mae wedi curo fy nghorff yn ddim,ac wedi torri fy esgyrn.
5 Mae fel byddin wedi fy amgylchynu,yn ymosod arna i gyda gwasgfa chwerw.
6 Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwchfel y rhai sydd wedi marw ers talwm.
7 Mae wedi cau amdana i, ac alla i ddim dianc.Mae'n fy nal i lawr gyda chadwyni trymion.
8 Dw i'n gweiddi'n daer am help,ond dydy e'n cymryd dim sylw.
9 Mae wedi blocio pob ffordd allan;mae pob llwybr fel drysfa!